Iestyn Tyne: Dim magwraeth ‘draddodiadol Gymraeg‘

Mae Iestyn Tyne wedi ennill coron a chadair Eisteddfod yr Urdd ac wedi ei ddewis yn , ond fe allai bywyd wedi bod yn wahanol iawn i‘r bardd o Ben Llŷn pe na bai ei rieni o dde Lloegr wedi penderfynu ceisio am swydd i redeg fferm ar Ynys Enlli.

Daw tad Iestyn, Tim Tyne o Lundain yn wreiddiol, a‘i fam Dot, o Sussex, ac er nad oedd amaethyddiaeth yn rhan o‘u cefndir teuluol o gwbl, penderfynodd y ddau fynd i astudio‘r pwnc yn Aberystwyth.

“Fe wnaethon nhw gyfarfod yn y Coleg Amaethyddol yn Aberystwyth yn y 90au,” eglurai Iestyn. “Fe gawson nhw wedyn eu cyflogi i redeg y fferm ar Ynys Enlli.

“Ffermwyr cenhedlaeth gyntaf ydy fy rhieni, rhywbeth sy‘n ddigon prin mewn ardal sy‘n llawn ffermydd teuluol, lle mae sawl cenhedlaeth o‘r un teulu yn gweithio‘r un tir. Roedd bywyd yn eithaf caled ar sawl adeg, ond fe ges i fagwraeth hapus o‘r dechrau i‘r diwedd.”

Cafodd Iestyn ei eni yn ystod y cyfnod pan roedd ei rieni yn ffermio ar yr ynys ond fe adawon nhw pan oedd Iestyn tua 18 mis.

“Rhyw gysylltiad od sydd gen i â‘r ynys felly – tydw i ddim yn cofio byw yno, ond eto mae o‘n rhan mor fawr ohona i a phwy ydw i. Ym Moduan y ces i fy magu, ar y fferm y symudodd fy rhieni iddi o Enlli, a lle maen nhw‘n parhau i fod hyd heddiw.”

Dim magwraeth ‘draddodiadol‘ Gymraeg

Mae‘n dweud bod pobl weithiau yn synnu i glywed na chafodd fagwraeth ‘draddodiadol‘ Gymraeg, ond eto mae‘n credu fod ei stori yn fwy cyffredin na beth mae pobl yn ddeall:

“Dwi ddim yn ystyried fy hun yn gymaint â hyn o anomaledd yn Llŷn – mae yna lawer iawn o bobl o gefndir Seisnig sydd wedi dod yn gwbl ddwyieithog diolch i‘r addysg yn yr ysgolion lleol.

“Falle bod pobl yn fwy tueddol o dynnu sylw at y peth yn fy achos i am fy mod i wedi mynd ymlaen i ymhél â sgwennu a barddoniaeth ac ati.

“Mae fy rhieni wedi bod yn ymwybodol o arwyddocâd byw mewn ardal sydd hefo‘i hiaith ei hun a‘i diwylliant ei hun erioed – roedd rhoi enwau Cymraeg i ni‘r plant yn gwneud synnwyr llwyr iddyn nhw oherwydd hynny, am wn i.

“Dwi‘n meddwl eu bod nhw‘n reit falch, yn eu ffordd eu hunain!”

‘Tŷ llawn llyfrau‘

Mae Iestyn yn ymwybodol iawn hefyd o ddylanwad ei rieni arno fel bardd, ac o ran agweddau eraill ei fywyd, fel mae‘n ei egluro:

“Tŷ llawn llyfrau oedd, ac ydi, adra erioed. Fe roddodd hynny gariad at ddarllen i mi, ac roedd hynny‘n gymwynas fawr. Lle mae rhywun yn dechrau, fel arall, wrth ddiolch i‘w rieni?

“Fe wnaethon nhw roi persbectif iach a gonest o‘r byd i mi; roedden nhw‘n gwybod pryd i fy nghynnal i a phryd i ‘ngadael i‘n sefyll ar fy nwy droed fy hun. Dwi‘n eu hedmygu a‘u caru nhw‘n fawr.

Fyddai‘r iaith Gymraeg ddim yn y darlun…

“Doedd hi ddim yn fagwraeth ymwybodol-greadigol, ond oedd, roedd ‘na wastad anogaeth i fod yn ffeindio ein hadloniant ein hunain. Doedd yna ddim teledu adref, felly yn naturiol roedd rhywun yn troi at bethau fel llyfrau, celf a cherddoriaeth; a chreu o‘r newydd.

“Dwi‘n ystyried fy hun yn ffodus iawn yn y ffaith i mi gael fy magu yn chwarae rhan yn y gwaith o gynhyrchu bwyd i‘r teulu. Mae o‘n brofiad sy‘n rhoi persbectif i rywun ar sawl peth.

“Mae‘r ‘ffasiwn‘ yma (byw yn hunangynhaliol) bellach yn anghenraid, a dwi‘n meddwl y bydd y wybodaeth a‘r profiad sydd gan bobl fel fy rhieni yn werthfawr iawn wrth i ni i gyd geisio ailystyried ein ffordd o fyw a‘n heffaith ar y ddaear sy‘n ein cynnal.

“Yn achos fy rhieni, dwi‘n meddwl eu bod nhw‘n gyfuniad o ddau beth sydd ddim yn aml yn dod ynghyd – sef eu bod nhw‘n amaethwyr, ond hefyd yn arddel gwerthoedd dosbarth gweithiol, eithaf sosialaidd mewn gwirionedd.”

Y Stamp

Mae Iestyn yn un o olygyddion cylchgrawn ar-lein Y Stamp, a gafodd ei greu â‘r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd: “Roedd yna deimlad ar y pryd – teimlad sy‘n parhau i raddau, er bod llawer o waith wedi ei wneud – bod yna lawer o gylchoedd caeedig o fewn y bydoedd celfyddydol Cymraeg a Chymreig.

“Dwi‘n gobeithio ein bod ni wedi llwyddo mewn rhyw ffordd i chwalu fymryn ar hynny – ac yn enwedig i gynnig anogaeth a chyfleoedd i awduron ac artistiaid oedd yn teimlo, hwyrach, nad oedd eu gwaith yn eistedd yn gyfforddus ar y llwyfannau oedd eisoes ar gael.

“Y Stamp ydi un o‘r pethau dwi fwyaf balch ohono yn y byd i gyd – ac mae blwyddyn gyffrous arall o‘n blaenau fel golygyddion y cylchgrawn a‘r cyhoeddiadau.”

A phetai rhieni Iestyn heb ymgartrefu yng Nghymru, sut mae‘n meddwl y byddai‘n mynegi ei greadigrwydd? “Dim clem. Fyddai‘r iaith Gymraeg ddim yn y darlun – ac fe fyddai‘n ddifyr gwybod faint yn union o effaith y byddai hynny yn ei gael.

“Mae‘n anodd gen i gredu na fyddwn i‘n gwneud unrhyw beth creadigol o gwbl, ond fe allai fod ar drywydd cwbl wahanol. Fydda i byth yn gwybod.”

Hefyd o ddiddordeb:

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *